Welsh Milk

Cymraeg

Llaeth Fferm Safonol

Mae ein llaeth ni i gyd yn cael ei gynhyrchu yn dilyn safonau y Cynllun Gwarant Ffermydd Llaeth ‘Red Tractor.’

Llaeth Fferm Safonol


Llaeth Fferm Safonol Mae’r Cynllun Red Tractor yn cydnabod ffermwyr sy’n arddangos safonau lles a hwsmonaeth sy’n cyd-fynd gyda seiliau cenedlaethol ar gyfer arferion amaethyddol gorau.

Mae ffermydd llaeth ein haelodau yn cael eu harchwilio’n gyson gan Aseswyr Fferm annibynnol cymwysedig fel rhan o’r Cynllun Gwarant Ffermwyr Llaeth y ‘Red Tractor.’

Cydnabyddir bod ein llaeth yn cael ei gynhyrchu ar ffermydd sy’n cael eu rheoli gan weithwyr stoc proffesiynol a phrofiadol, gyda lles anifeiliaid yn bwysig iawn.

Mae hylendid, diogelwch a safon y llaeth hefyd yn cael eu mesur fel rhan o’r cynllun.

Gall defnyddwyr a gwerthwyr ein llaeth fod yn sicr bod ein llaeth ni yn cael ei gynhyrchu yn dilyn arferion gorau’r diwydiant.

 

Llaeth Cymreig Cyfyngedig, Nantegryd, Capel Dewi, Llandysul, SA44 4RD
Tel: 01559 363224
welshmilk.co.uk
Sat 23 Sep 2017 13:42:32