Pwysigrwydd Llaeth yn y Diet
Heb os mae Cynnyrch Llaeth yn gallu chwarae rhan bwysig mewn diet iach
Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn darparu 15 maethyn angenrheidiol ar gyfer tyfiant iach ac ar gyfer cefnogi iachusrwydd. Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn cynnig modd hawdd a chyflym i ddarparu’r maethynnau yma i’r diet gyda nifer gymharol fechan o galorïau.

Mae llaeth, caws ac iogwrt yn gyfoethog yn y maethynnau beunyddiol yma:
- Calsiwm – er mwyn dannedd ac esgyrn iach.
- Ffosfforws - i ryddhau egni.
- Magnesiwm – pweru’r cyhyrau
- Protein – er mwyn tyfu ac adnewyddu.
- Fitamin B12 – er mwyn cynhyrchu celloedd iach.
- Fitamin A – ar gyfer llygaid ac imiwnedd iach
- Sinc – i’r imiwnedd
- Ribofflafin – croen iach
- Ffolad – er mwyn cynhyrchu celloedd iach
- Fitamin C – er mwyn cynhyrchu meinweoedd cysylltu iach
Ceir hefyd Casein, protein a geir mewn llaeth yn unig, sy’n cynnwys yr holl asidau amino angenrheidiol, sef sylfaen adeiladu'r cyhyrau.
Gall un gwydraid o laeth yn unig wneud cyfraniad gwerthfawr i’r argymhellion mewnbwn dyddiol ar ran nifer o faethynnau i bobl o bob oedran.
Mae’r maethynnau mewn llaeth yn ei wneud yn un o’r bwydydd mwyaf buddiol yn natur.
|